Rhif y ddeiseb:   P-06-1262

Teitl y ddeiseb: Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniadau a wnaed ganddi cyn ac yn ystod y pandemig

Geiriad y ddeiseb: Cafodd llawer o anwyliaid eu heintio â Covid-19 mewn ysbytai a chartrefi gofal yng Nghymru. Roedd cyfarpar diogelu personol yn brin, ni phrofwyd staff oni bai iddynt ddangos symptomau COVID, roedd y camau a gymerwyd i awyru ystafelloedd yn ddiffygiol, a rhoddwyd cleifion COVID ar wardiau nad oeddent wedi’u bwriadu ar eu cyfer. Anfonwyd llawer o gleifion adref heb iddynt gael eu hailbrofi; aethant ymlaen i ledaenu’r haint yn y gymuned cyn iddynt farw. Roedd hysbysiadau ‘na cheisier dadebru’ yn gysylltiedig â nifer o gleifion heb ymgynghoriad. Roedd cyfathrebu'n wael os oedd yn digwydd o gwbl. Yn bendant, ni ddysgwyd y gwersi perthnasol. Dylid craffu yng Nghymru ar y penderfyniadau a wnaed yng Nghymru a effeithiodd ar bobl Cymru.

 

 

 

 


1.        Cefndir

Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi comisiynu ymchwiliad statudol i'r ymateb i bandemig Covid-19. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddwydmai’r Farwnes Heather Hallett, cyn-farnwr yn y Llys Apêl, a fydd yn cadeirio’r ymchwiliad. Mae’r cadeirydd wrthi’n ymgynghori ar gylch gorchwyl drafft yr ymgynghoriad. Mae’r cylch gorchwyl drafft yn nodi y bydd ymchwiliad y DU yn ystyried materion a gedwir yn ôl a materion datganoledig ledled y DU.

Ar 29 Mawrth 2022, cyhoeddodd Ymchwil y Senedd erthygl, 'Ymchwiliad Covid-19 y DU: sut y bydd yn ymchwilio i’r ymateb i’r pandemig yng Nghymru?', sy’n edrych ar yr hyn y mae ymchwiliad y DU yn bwriadu ei wneud a sut y gallai fynd ati i ymchwilio i’r ymateb i’r pandemig yng Nghymru.

Ymchwiliadau cyhoeddus

Mae ymchwiliadau cyhoeddus yn ymchwiliadau annibynnol a sefydlir gan Weinidogion y Llywodraeth. Gellir eu sefydlu yn dilyn damweiniau mawr, trychinebau neu fethiannau cyhoeddus, i ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd a pham, yr hyn a aeth o'i le, a’r hyn y gellir ei ddysgu.

Mae Deddf Ymchwiliadau 2005 yn darparu sail gyfreithiol ar gyfer ymchwiliadau statudol. Mae’r Ddeddf hefyd yn galluogi Gweinidogion Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig i sefydlu ymchwiliadau statudol. Pan fydd un o Weinidogion y DU am i gylch gorchwyl ymchwiliad gwmpasu materion Cymreig, rhaid i’r Gweinidog hwnnw ymgynghori â Gweinidogion Cymru yn gyntaf.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi comisiynu ymchwiliad statudol ar wahân i’r ymateb datganoledig i’r pandemig, dan gadeiryddiaeth yr uwch-farnwr yr Arglwyddes (Anna) Poole. Ymgynghorodd Llywodraeth yr Albanar gylch gorchwyl yr ymchwiliad hwn a’i bennu yn 2021. Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu'n ffurfiol ym mis Chwefror a disgwylir i’r gwaith ddechrau yn yr haf.

 

 

 

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod o’r farn mai ymchwiliad Covid ar gyfer y DU gyfan yw’r opsiwn gorau ar gyfer craffu ar benderfyniadau a wnaed yng Nghymru, am fod prosesau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau wedi’u cysylltu’n annatod ag ystyriaeth o dirwedd gwyddoniaeth a pholisi ehangach y DU.

Ym mis Medi 2021, ysgrifennodd y Prif Weinidog at Lywodraeth y DU i nodi ei farn na ddylai Cymru fod yn ôl-ystyriaeth nac yn droednodyn yn ymchwiliad y DU, gan ddweud y canlynol:

§  dylai tîm yr ymchwiliad ddod i Gymru i gymryd tystiolaeth;

§  dylai arbenigedd penodol i Gymru fod ar gael i’r ymchwiliad;

§  dylai adroddiad yr ymchwiliad gynnwys pennod neu benodau ar Gymru.

Pleidleisiodd y Senedd o drwch blewyn yn erbyn cynnig ym mis Rhagfyr 2021 a alwodd ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad.

Ym mis Mawrth 2022, cadarnhaodd y Prif Weinidog yr ymgynghorwyd ag ef ar y cylch gorchwyl drafft cyn i hwnnw gael ei gyhoeddi, a’i fod hefyd yn bwriadu ymateb yn ffurfiol i’r ymgynghoriad “i sicrhau bod profiadau pobl Cymru yn cael eu clywed yn briodol”.

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Cafwyd galwadau ers tro am ymchwiliad ar wahân i’r ymateb datganoledig i’r pandemig yng Nghymru, gan gynnwys o du'r Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru, y Comisiynydd Pobl Hŷn, a'r grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice (Cymru). Mae’r cynigwyr wedi dadlau y gallai ymchwiliad penodol i Gymru fod yn ffordd fwy effeithiol o ddwyn Gweinidogion Cymru i gyfrif am eu penderfyniadau, sicrhau dealltwriaeth o’r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau yn y cyd-destun datganoledig, a bod yn hygyrch i bobl ledled Cymru.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.